Negyddol Arfaethedig Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
4 Chwefror 2019

Pn(5)015 – Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 sy'n cydategu Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/262 sy’n nodi rheolau yn unol â Chyfarwyddebau’r Cyngor 90/427/EEC a 2009/156/EC o ran dulliau adnabod equidae yng Nghymru ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â gorfodi’r Rheoliad hwnnw. 

Cafodd y rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd

Pn(5)016 Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod “unrhyw ofyniad yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn lle “unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n uniongyrchol gymwysadwy”.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ni Nodwyd